Datganiad hygyrchedd

Mae’r datganiad hwn ond yn berthnasol i’r safle Gofyn am ffurfen gais Lwfans Mamolaeth, sydd ar gael yn Gofyn am ffurfen gais Lwfans Mamolaeth. Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o'r wefan GOV.UK ehangach. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer y brif wefan GOV.UK.

Defnyddio'r gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan Wasanaeth Digidol yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth.

Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Mae'r wefan hon wedi'i phrofi gan ddefnyddio Voice Control, VoiceOver a Zoom yn erbyn canllawiau WCAG 2.2. Ni ddarganfyddwyd unrhyw broblemau.

Y drefn gorfodaeth

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’ y ’rheolaethau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â ’Public Sector Bodies (Websites and Mobile Applications) (No. 2) Accessibility Regulations 2018’.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r wefan wedi cael ei phrofi yn erbyn Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe 2.2 Safon AA. Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â fersiwn 2.2 Safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hon ar 20 Chwefror 2023. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 2 Awst 2024

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 2 Awst 2024. Cynhaliwyd y profion gan DWP drwy ddefnyddio y technolegau cynorthwyol canlynol: VoiceOver (darllenydd sgrin), Voice Control (adnabod lleferydd) a Zoom (chwyddwr sgrin).