Ymgyrchoedd

Diogelwch

Diogelir unrhyw wybodaeth rydych wedi’i darparu wrth ddefnyddio’r wefan hon drwy ddefnyddio cod cryfder diwydiannol er mwyn sicrhau mai dim ond personél awdurdodedig a all weld y wybodaeth. Cedwir y gwasanaeth ar serfiwr diogel – a nodir yn eich bar cyfeiriad porwr gan https ar ddechrau'r cyfeiriad. Bydd y rhan fwyaf o borwyr hefyd yn nodi bod yna gysylltiad diogel drwy ddangos llun clo ar ochr dde isaf y ffenestr pori.

Clirio storfa dros dro a hanes eich porwr

Os yw pobl eraill yn rhannu'r cyfrifiadur rydych yn ei ddefnyddio, efallai y byddwch yn dymuno dileu gwybodaeth am eich adroddiad twyll ohono.

Pan rydych yn ymweld â gwefan, bydd eich porwr yn cofnodi gwybodaeth benodol. Mae’r porwr yn cofnodi manylion pob tudalen rydych yn ymweld â, gan gynnwys manylion unrhyw ffeiliau cysylltiedig fel graffeg. Os ydych yn ymweld â thudalen eto, gall y cyfrifiadur ddefnyddio'r storfa o wybodaeth yn hytrach na lawrlwytho o'r serfiwr eto. Mae eich porwr hefyd yn cofnodi pob safle rydych yn ymweld yn y ffolder Hanes rhag ofn y byddwch eisiau ymweld eto.

Defnyddiwch ddewislen Tools neu ddewislen Help y porwr i gael gwybod sut i ddileu’r wybodaeth drwy glirio’r storfa dros dro a’r hanes.

Cliciwch yma i ddychwelyd i’r ffurflen hysbysu Twyll Budd-dâl Saesneg

Cliciwch yma i ddychwelyd i’r ffurflen hysbysu Twyll Budd-dâl Cymraeg

Ewch i’r wefan Targedu lladron budd-daliadau