Datganiad hygyrchedd
Mae'r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am wefan Cysylltu â Gwasanaethau Cyflogwyr.
Defnyddio'r gwasanaeth hwn
Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r gwasanaeth hwn. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 400% heb i'r testun ollwng oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau'r gwasanaeth i'r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
- gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.
Mae AbilityNet cgyda chyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn
Efallai y bydd defnyddwyr JAWS 18 neu 19 a Zoomtext yn canfod nad yw rhai penawdau'n cael eu darllen wrth ddefnyddio Internet Explorer 11. Mae hwn yn fater hysbys gyda meddalwedd Freedom Scientific. Dylech allu datrys y broblem hon trwy ddefnyddio porwr gwahanol.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaeth hwn
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio'r ffurflen Cysylltu â'r DWP am hygyrchedd.
Gweithdrefn orfodi
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r:
- Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban
- Equality Commission for Northern Ireland (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws cydymffurfio
Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â'r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe fersiwn 2.2 safon AA.
Sut rydym wedi profi'r gwasanaeth hwn
Profwyd y gwasanaeth ddiwethaf ar 20 Mai 2024 a chafodd ei wirio am gydymffurfiad â WCAG 2.2 AA. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Profwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio profion awtomataidd a gyda llaw.
Paratoi'r datganiad hwn
Paratowyd y dudalen hon ar 20 Mai 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 20 Mai 2024. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Rydym wedi profi pob tudalen.