Datganiad hygyrchedd

Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am y safle Rhoi gwybod am Daliad Costau Byw Coll.

Defnyddio’r gwasanaeth hwn

Mae’r gwasanaeth yn cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym eisiau i gymaint o bobl ȃ phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin

Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasnaeth mor syml ȃ phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Nid ydym wedi gallu profi'r gwasanaeth hwn â llaw gan ddefnyddio JAWS, Zoomtext a Dragon. Rydym yn bwriadu gwneud hyn cyn gynted ag y bydd yr offer ar gael i ni.

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.

Mae’n bosibl y bydd defnyddwyr JAWS 18 neu 19 a Zoomtext yn gweld nad yw rhai penawdau’n cael eu darllen allan wrth ddefnyddio Internet Explorer 11. Mae hyn yn broblem hysbys gyda meddalwedd Freedom Scientific. Dylech allu datrys y mater hwn drwy ddefnyddio porwr gwahanol.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’rgwasanaeth

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych yn dod o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu’n meddwl nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen Cysylltu â DWP am hygyrchedd.

Gweithdrefn Orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif. 2). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae’r DWP wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws Cydymffurfiaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llwyr â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.

Sut rydym wedi profi’r gwasanaeth hwn

Profwyd y gwasanaeth diwethaf ar 2 Awst 2022 a gwirwyd am gydymffurfiaeth gyda WCAG 2.1 AA. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Profwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio profion awtomataidd a llaw.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu profi'r gwasanaeth hwn â llaw gan ddefnyddio JAWS, Zoomtext a Dragon.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 2 Awst 2022.

Profwyd y gwasanaeth diwethaf ar 2 Awst 2022. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.

Gwnaethom brofi pob tudalen.