Cwblhewch y ffurflen hon os ydych yn cael trafferth i gysylltu â'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) dros y ffôn i dalu Cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.
Bydd DWP yn cysylltu â chi ar y rhif ffôn rydych chi'n ei ddarparu ar y ffurflen hon i drafod talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.
Os byddwch yn cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau ar 5 Ebrill 2025, byddwch yn dal i allu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol ar ôl i'r dyddiad cau fynd heibio.
Os ydych eisoes wedi gofyn am alwad yn ôl, peidiwch ag anfon cais arall.