Neidio i'r prif gynnwys

Mae hwn yn wasanaeth newydd - helpwch ni i'w wella trwy anfon eich adborth (yn agor mewn tab newydd)

Datganiad hygyrchedd ar gyfer Cysylltu â thîm gohebiaeth weinidogol y DWP

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'r gwasanaeth Cysylltu â thîm gohebiaeth weinidogol y DWP.

Mae'r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP). Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau gan ddefnyddio gosodiadau porwr neu ddyfais
  • chwyddo hyd at 400% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • Llywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio bysellfwrdd neu feddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud testun y gwasanaeth mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu’n meddwl nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r ffurflen Cysylltu â DWP am hygyrchedd.

Gweithdrefn gorfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r:

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae DWP wedi ymrwymo i wneud ei wasanaeth yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfiaeth

Mae'r gwasanaeth wedi'i brofi yn erbyn safon AA 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe (WCAG). Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â fersiwn 2.2 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe. safon AA.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hon ar 30 Hydref 2025. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 30 Hydref 2025.

Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 30 Hydref 2025 yn erbyn safon WCAG 2.2 AA.

Profwyd pob tudalen gan DWP gan ddefnyddio offer profi â llaw ac awtomataidd i safon WCAG 2.2 AA.