Datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflen we Cysylltu â’r DWP am hygyrchedd

Mae'r gwasanaeth hwn yn rhan o'r wefan GOV.UK ehangach. Mae datganiad hygyrchedd ar wahân ar gyfer y brif wefan GOV.UK.

Mae'r datganiad hwn ond yn berthnasol i'r gwasanaeth ffurflen hygyrchedd gwe Cysylltu â DWP, sydd ar gael yn https://secure.dwp.gov.uk/contact-dwp-about-accessibility.

Defnyddio'r gwasanaeth

Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei redeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym eisiau cyn gymaint o bobl â phosibl i allu defnyddio’r gwasanaeth.

Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun fynd oddi ar y sgrin
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y cynnwys yn y gwasanaeth mor syml â phosibl i’w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Rydym yn defnyddio'r Web Content Accessibility Guidelines (WCAG) v2.1 lefel A a lefel AA i brofi pa mor hygyrch yw tudalennau digidol a gwefannau DWP.

Profwyd y ffurflen hon ddiwethaf yn ystod yr wythnos yn dechrau 27 Mawrth 2023. Profwyd y ffurflen we hon gan ddefnyddio'r technolegau cynorthwyol canlynol: JAWS (darllenydd sgrin), Dragon (adnabod lleferydd) a ZoomText (chwyddwr sgrin)

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r ffordd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn

Mae DWP wedi ymrwymo i wneud y gwasanaeth hwn yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n llawn â'r Web Content Accessibility Guidelines version 2.1 safon AA.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 8 Hydref 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 12 Ebrill 2023.

Profwyd y ffurflen hon ddiwethaf yn ystod yr wythnos yn dechrau 27 Mawrth 2023. Profwyd y ffurflen we hon gan ddefnyddio'r technolegau cynorthwyol canlynol: JAWS (darllenydd sgrin), Dragon (adnabod lleferydd) a ZoomText (chwyddwr sgrin