Datganiad hygyrchedd
Mae’r dudalen hon ond yn cynnwys gwybodaeth am y safle Gwneud cais am wybodaeth am Bensiwn y Wladwriaeth sydd wedi'i dandalu ar gyfer rhywun sydd wedi marw.
Defnyddio’r gwasanaeth hwn
Mae’r gwasanaeth yn cael ei rhedeg gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Rydym eisiau i gymaint o bobl ȃ phosibl i allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech fod yn gallu:
- newid lliwiau, lefelau cyferbynnu a ffontiau
- chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun ollwng oddi ar y sgrin
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- mynd o ddechrau’r gwasanaeth i’r diwedd gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y gwasanaeth gan ddefnyddio darllenydd sgrin
Rydym hefyd wedi gwneud y testun yn y gwasnaeth mor syml ȃ phosibl i’w ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych anabledd.
Pa mor hygyrch yw’r wefan hon
Nid ydym wedi gallu profi'r gwasanaeth hwn â llaw gan ddefnyddio JAWS, Zoomtext a Dragon. Rydym yn bwriadu gwneud hyn cyn gynted ag y bydd yr offer ar gael i ni.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch.
Mae’n bosibl y bydd defnyddwyr JAWS 18 neu 19 a Zoomtext yn gweld nad yw rhai penawdau’n cael eu darllen allan wrth ddefnyddio Internet Explorer 11. Mae hyn yn broblem hysbys gyda meddalwedd Freedom Scientific. Dylech allu datrys y mater hwn drwy ddefnyddio porwr gwahanol.
Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’rgwasanaeth
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y gwasanaeth hwn. Os ydych yn dod o hyd i broblemau sydd heb eu rhestru ar y dudalen hon, neu’n meddwl nad ydym yn cwrdd â’r gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio’r ffurflen Cysylltu â DWP am hygyrchedd.
Gweithdrefn Orfodi
Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau Hygyrchedd 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’) Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif. 2). Os nad ydych yn hapus â sut rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â:
- Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS) os ydych yn byw yng Nghymru, Lloegr, neu’r Alban
- Equality Commission for Northern Ireland (ECNI) os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon
Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y gwasanaeth hwn
Mae’r DWP wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â’r Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.
Statws Cydymffurfiaeth
Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llwyr â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.
Sut rydym wedi profi’r gwasanaeth hwn
Profwyd y gwasanaeth diwethaf ar 15 Mehefin 2022 a gwirwyd am gydymffurfiaeth gyda WCAG 2.1 AA. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Profwyd y gwasanaeth gan ddefnyddio profion awtomataidd a llaw.
Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd
Rydym yn bwriadu profi'r gwasanaeth hwn â llaw gan ddefnyddio JAWS, Zoomtext a Dragon.
Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn
Cafodd y datganiad hwn ei baratoi ar 15 Mehefin 2022.
Profwyd y gwasanaeth diwethaf ar 15 Mehefin 2022. Cynhaliwyd y profion gan yr Adran Gwaith a Phensiynau.
Gwnaethom brofi pob tudalen.