Darganfod pwy i gysylltu ag am arian sy'n cael ei dynnu o'ch taliad Credyd Cynhwysol
Gallwn ddidynnu arian o'ch taliad Credyd Cynhwysol os oes gennych ddyled. Byddwch yn gweld hyn ar eich datganiad Credyd Cynhwysol - mewngofnodwch i'ch cyfrif ar-lein ac edrychwch yn yr adran 'Taliadau'.
Darganfyddwch wrth bwy i holi am arian sydd cael ei dynnu i ffwrdd ar gyfer:
- Taliadau ymlaen llaw
- Gordaliad Credyd Cynhwysol
- Gordaliadau credydau treth a budd-daliadau, ad-daliadau benthyciadau trefnu ac argyfwng
- Taliad caledi adferadwy
- Didyniad trydydd parti - os oes arian yn ddyledus gennych am bethau fel rhent, Treth Gyngor, trydan, nwy, dŵr neu ddirwyon llys
Darganfyddwch am arian sy'n cael ei dynnu o'ch taliad Credyd Cynhwysol.