Darganfyddwch sut i roi gwybod am Daliad Costau Byw coll

Dylai'r rhan fwyaf o bobl wedi cael eu Taliad Costau Byw o £301, £300 a £299 neu Daliad Costau Byw i'r Anabl o £150 ar gyfer 2023 a 2024.

Os oeddech yn disgwyl un o’r canlynol ond nad ydych wedi’i gael, gallwch roi gwybod amdano fel un coll:

  • £301 wedi'i dalu rhwng 25 Ebrill 2023 a 17 Mai 2023 i'r rhan fwyaf o bobl
  • £300 wedi'i dalu rhwng 31 Hydref a 19 Tachwedd 2023 i'r rhan fwyaf o bobl
  • £299 wedi'i dalu rhwng 6 Chwefror a 22 Chwefror 2024 i'r rhan fwyaf o bobl
  • Taliad Costau Byw Anabledd o £150 wedi'i dalu rhwng 20 Mehefin a 4 Gorffennaf i'r rhan fwyaf o bobl

Byddwch angen eich rhif Yswiriant Gwladol. Os ydych wedi colli eich rhif Yswiriant Gwladol, edrychwch ar sut i ddod o hyd i rif Yswiriant Gwladol sydd ar goll.

Cyn rhoi gwybod am daliad coll, gwiriwch eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd, neu eich derbynneb taleb Gwasanaeth Eithrio Talu. Bydd y taliad yn cael ei wneud ar wahân i'ch budd-dal.

Dechrau nawr